Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales

Partneriaid Academi Sgrin Cymru

I weld map o leoliadau Academi Sgrin Cymru cliciwch ar y PDF isod:
Map MAP

Page 1 - Partneriaid Cymru
Page 2 - Y Rhwydwaith yn y DU

Ysgol Ffilm Ryngwladol Cymru Wales (prif bartner)

The International Film School Wales (IFSW)

Mae'r Ysgol Ffilm Ryngwladol yn rhan o Brifysgol Cymru, Casnewydd – aelod o rwydwaith Prifysgol Cymru, sydd yn cynnwys 8 o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Mae gan Ysgol Celf, y Cyfryngau a Dylunio'r Brifysgol – cartref yr Ysgol Ffilm – hanes hir o arbenigedd ym maes ymchwil ymarferol a chreadigol. Enillodd yr adran raddfa lefel ‘5’ – y gradd uchaf a enillwyd gan unrhyw Ysgol Gelf – yn yr Asesiad Ymchwil diweddaraf. Mae'r Ysgol Ffilm, ynghyd â'i sefydliadau blaenorol, wedi sicrhau enw da fel canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer addysg a hyfforddiant i bobl broffesiynol y diwydiant clyweledol, a'r ganolfan hon yw'r prif ganolfan ar gyfer addysg ffilm yng Nghymru. wefan.


Yr Academi Ffilm - (prif bartner)

The Film Academy

Sefydlwyd yr Academi Ffilm yn 2003 ym Mhrifysgol Morgannwg, yn dilyn gwahoddiad gan yr Arglwydd Richard Attenborough, er mwyn datblygu canolfan hyfforddi ac addysg busnes ffilm o'r radd flaenaf.  Gyda phwyslais penodol ar yr ochr ariannol o wneud ffilmiau, rôl yr Academi Ffilm yw gweithio i hybu dealltwriaeth o fusnes byd ffilm a theledu. Mae'r ysgol newydd ar gyfer y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol yng Nghaerdydd yn golygu bod myfyrwyr nawr yn gallu dewis cyrsiau sydd yn cwmpasu dylunio + chynllunio, cerddoriaeth a drama, ynghyd â ffilm, teledu a ffotograffiaeth. Fe fydd myfyrwyr israddedig ac ôl-radd fel ei gilydd yn gallu astudio holl amrywiaeth y cwricwlwm sydd ar gael er mwyn ennill nifer o gymwysterau wedi'u hachredu gan Skillset, fel y BA mewn Ffilm, Teledu a Radio a'r MA mewn Cynhyrchu Ffilm a Rheoli Busnes. Mae'r Academi hefyd yn cynnig darpariaeth eang ac arbenigol ar gyfer astudiaethau ar lefel uwch a Doethur. wefan.


Athrofa Addysg Uwch Abertawe (partner cysylltiol)

Swansea Institute of Higher Education

Mae Athrofa Addysg Uwch Abertawe yn aelod o Brifysgol Cymru ac yn trefnu SAND, gŵyl animeiddio digidol rhyngwladol o bwys sydd yn hybu'r cyfuniad o animeiddio, technoleg CGI a thechnolegau digidol eraill er mwyn creu cynnwys arloesol y gellir ei ecsploetio'n fasnachol. Rôl Athrofa Abertawe o fewn Academi Sgrin Cymru fydd datblygu'r cwricwlwm Animeiddio ynghyd â datblygu cwrs MA mewn Animeiddio Cyfrifiadurol 3D. wefan.

Canolfan Morgannwg ar gyfer Technoleg Celf a Dynlunio (GCADT) (partner cysylltiol)

Glamorgan Centre for Art and Design Technology (GCADT)

Cafodd Canolfan Morgannwg ar gyfer Technoleg Celf a Dylunio ei chreu ym 1990 er mwyn cynnig awyrgylch groesawgar a chadarnhaol ar gyfer astudiaethau arbenigol o Gelf a Dylunio ar gampws Pontypridd. Nod y ganolfan yw cynnig amgylchedd sydd yn hybu creadigrwydd a hunanfynegiant, tra'n ateb y gofynion sydd gan bobl broffesiynol ym maes Celf a Dylunio. Mae Canolfan Morgannwg yn cynnig cwrs BA Animeiddio wedi'i achredu gan Skillset, sydd yn rhan o gwricwlwm yr Academi Sgrin ac y mae hefyd yn chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu ymhellach gwricwlwm animeiddio'r Academi. wefan.

Coleg Cerdd a Drama Frenhinol Cymru (partner cysylltiol)

The Royal Welsh College of Music and Drama (RWCMD)

Y Coleg Cerdd a Drama yw conservatoire cenedlaethol Cymru. Mae cyfuniad unigryw'r coleg o gyrsiau yn cynnwys cynlluniau gradd israddedig ac ôl-radd a rhaglenni diploma mewn cerddoriaeth, theatr a meysydd cysylltiedig. Rôl y Coleg Cerdd a Drama o fewn Academi Sgrin Skillset fydd datblygu'r cwricwlwm Actio ar gyfer y Sgrin ac hefyd i ddatblygu gradd MA mewn Actio ar gyfer y Sgrin. wefan.


Ysgol Fusnes Caerdydd (partner cysylltiol)

Cardiff Business School (CBS)

Mae Ysgol Fusnes Caerdydd, rhan o Brifysgol Caerdydd, yn un o ysgolion busnes mwyaf blaenllaw Ewrop (rhif 6 ym Mhrydain), Mae'r ysgol yn cyfrannu i lwyddiant busnes yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol trwy gyfrwng ymchwil o'r radd flaenaf a lledaenu gwybodaeth. Fel rhan o'r Academi Sgrin, fe fydd yr Ysgol Fusnes yn cynnig modiwlau ar arweiniad creadigol trwy'r Uned Arweiniad (Leadership Unit (LEED)), gan ganolbwyntio ar bynciau fel Arwain a Newid, Entrepreneuriaeth a Rheoli Busnesau Bychain, Arloesi, Arloesi Gwasanaeth a Phrosesau a phynciau cyffelyb. wefan.


Cyfle

Cardiff Business School (CBS)Mae Cyfle wedi datblygu i fod yn borth mynediad i ystod eang o dalentau newydd ac yn Gwmni sydd yn cynnig cymorth hyfforddi ymarferol i weithlu'r diwydiant. Cyfle yw Cwmni Hyfforddi y Diwydiant Teledu Ffilm a Rhyngweithiol yng Nghymru. Yn wreiddiol, sefydlwyd Cyfle ym 1986 i hyfforddi technegwyr, Cymraeg eu hiaith, ar gyfer y diwydiant teledu a sefydlwyd o ganlyniad i ddyfodiad S4C. Wefan

 


Tud 1  / Tud 2

> top