Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales

Rhaglen Estyn Allan a Rhyngwladol

Mae'r Academi Sgrin wedi bod yn gweithio'n agos gyda nifer o gynlluniau estyn allan presennol i sicrhau bod myfyrwyr yn cael blas ar fyd gwneud ffilmiau ac i roi cyfleoedd i'r rheiny na fyddai fel arall yn ystyried gyrfa ym myd ffilm. Yn ystod 2006 cefnogwyd y mentrau canlynol:

Cynllun It’s My Shout, a drefnir gan Gyngor Sir Pen-y-bont, ITV Cymru a CYFLE. Mae'r cynllun yn dod â 300 o bobl ifainc a myfyrwyr at ei gilydd ar gyfer rhaglen o ffilmio yn ystod yr haf, gyda'r bwriad o gwblhau 3 ffilm. Cynigir profiad helaeth o waith cyn- ac ôl-gynhyrchu. Rhoddodd yr Academi gymorth i 54 o fyfyrwyr er mwyn iddyn nhw allu cymryd rhan yn holl agweddau'r cynhyrchu yn 2006, er mwyn pontio'r bwlch rhwng penaethiaid adran profiadol a phlant ysgol. Mae nifer o ddisgyblion wedi cael cynnig gwaith tâl yn y diwydiant o ganlyniad.

Mae cynllun ffilm nodwedd Reaching Higher (Tornado Films a First Campus) yn arwain plant oed ysgol trwy gynllun datblygu 6-mis o hyd gyda'r nod o gynhyrchu sgript ffilm nodwedd, gyda sgriptiwr Emmerdale, Andrew Kirk. Yn rhan o'n hymwneud ni, cafodd cyfarwyddwr a chast y ffilm gyfle i ymarfer rhai golygfeydd yn stiwdios yr Ysgol Ffilm Ryngwladol ac roedd myfyrwyr yr Academi yn rhan o'r broses cyn-gynhyrchu ac o'r cyfnod ffilmio 3-wythnos o hyd a gynhaliwyd yn Ne Cymru.

Mae The Taff Bank Show, a drefnir gan y Merthyr Media Project a Gate, gyda chydweithrediad First Campus, yn ysgol haf sydd yn rhoi cyfle i bobl ifainc rhwng 16-18 oed, o ddalgylch Prifysgol Morgannwg, wneud ffilm ddrama a ffilmiau dogfen byrion yng nghwmni darlithwyr ffilm. Yn 2007, fe fydd y cynllun yn cael ei estyn i gynnwys dalgylch Prifysgol Cymru, Casnewydd. Mae'r Academi Sgrin hefyd yn gweithio gyda'r Merthyr Media Project ar gynlluniau ar gyfer clybiau ffilm cymunedol i ferched.

Mae'r Academi Sgrin hefyd wrthi'n datblygu cysylltiadau â Media4Schools a Media4Communities yn ogystal ag Addysg Cyfryngau Cymru.

Partneriaid rhyngwladol

Mae cydweithrediad pellach â phartneriaid rhyngwladol wrth galon datblygiad yr Academi Sgrin. Fe fydd yr Academi yn ffurfio perthnasau agos gydag ysgolion ffilm ar hyd a lled y byd ac yn sefydlu cynlluniau cyfnewid i fyfyrwyr. Caiff athrawon prifysgol a phobl broffesiynol o bob maes perthnasol eu gwahodd i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr ac i ddatblygu'r cwricwlwm a rhannu gwybodaeth ar draws ffiniau. Fel hyn, gobeithiwn barhau i ddatblygu a chryfhau'r cwricwlwm sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru.

Cyfnewid rhyngwladol

Mae Academi Sgrin Cymru yn aelod o fenter EKRAN sefydliad MEDIA Ewrop. Cynhelir y digwyddiad yn ysgol ffilm Andrej Wajda yn Warsaw. Mae'r cynllun cyfnewid yma yn dod â myfyrwyr o'r Almaen, Norwy, Denmarc, Gwlad Pŵyl, Slofenia, y Swistir a Chymru at ei gilydd, ac yn galluogi i 3 myfyriwr o'r Academi Sgrin fynychu gweithdai datblygu ar gyfer prosiect ffilm nodwedd dros gyfnod o 5 mis.

Mae Academi Sgrin Cymru Skillset, trwy'r Ysgol Ffilm Ryngwladol, hefyd yn rhan o grŵp Ysgolion Animeiddio Ewrop, CARTOON, sydd yn trafod cyfleoedd i animeiddwyr mewn marchnadoedd newydd ac i ddefnyddio technolegau newydd, yn ogystal â bod yn gyfle i drafod tueddiadau presennol y farchnad a rhannu arferion gwaith llwyddiannus.

Cynlluniau Cyfnewid Myfyrwyr

Bydd bwrsarïau ar gael i fyfyrwyr i'w galluogi i fynychu ysgolion ffilm ar hyd y byd, er mwyn hybu'r profiad o rannu gwybodaeth a sgiliau, a dod i gysylltiad a chyfoedion mewn gwledydd eraill, ac i gyfarwyddo â thechnegau gwneud ffilm yn fyd-eang.