Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales

Mentora a chyfnodau preswyl

Preswyl

Gwneir defnydd helaet h hefyd, yn yr Academi Sgrin, o Artistiaid Preswyl, a thrwy hynny, gall myfyrwyr weithio'n agos â phobl broffesiynol ar brosiectau penodol dros gyfnod o 2 i 4 wythnos. Cynhaliwyd cyfnodau presennol llwyddiannus yn 2006 gyda'r animeiddiwr Leigh Hodgkinson a'r artist cyfryngau digidol / cynhyrchydd o Fflorida, Larry Mitchel.

Mentora

Caiff mentoriaid eu defnyddio'n helaeth yn ystod y broses hyfforddi, ond yn fwy penodol, cânt eu defnyddio wrth i fyfyrwyr gael profiad ymarferol o gynhyrchu mewn cyd-destun proffesiynol. Gall cyngor pobl broffesiynol, yn 'enwogion' a phobl brofiadol fel ei gilydd, fod yn adnodd amhrisiadwy i fyfyrwyr ar unrhyw gam yn eu gyrfaoedd. Cafwyd cynllun mentora llwyddiannus yn 2005-6 pan gafodd myfyrwyr ar y cwrs MA Cynhyrchu Ffilm hyfforddiant gan wneuthurwyr ffilmiau byrion profiadol – a hynny ar hyd y broses greadigol, o'r cynllunio i orffen y gwaith terfynol. Gwahoddwyd mentoriaid hefyd i annerch y myfyrwyr ar amrywiaeth eang o bynciau a sgiliau – o actio i gynhyrchu. Mae cyngor gyrfaol unigol, a mentora wyneb-yn-wyneb, hefyd ar gael i fyfyrwyr yr Academi trwy gynllun peilot Skillset Cymru.

Labordy Ffilm Haf

Mae'r Academi Sgrin ar hyn o bryd yn datblygu labordy wythnos neu bythefnos o hyd, o hyfforddiant dwys ym maes cynhyrchu ffilm. Caiff y sesiynau hyn eu harwain gan bobl broffesiynol y diwydiant, fel y cyfarwyddwr Cymreig nodedig, Marc Evans. Fe fydd y labordai hyn ar gael i fyfyrwyr ar ddiwedd blwyddyn dau, ac i fyfyrwyr MA yn ystod blwyddyn gyntaf neu ail flwyddyn y cwrs. Bydd y labordai yn fodd i hybu cydweithio rhwng holl bartneriaid yr Academi a myfyrwyr tramor ar gynlluniau cyfnewid penodol.

Bwrsarïau Labordy Haf

Cynigir bwrsarïau a fydd yn galluogi i fyfyrwyr fynychu'r ysgol haf am gyfnod dwys o 1-2 wythnos yn ystod haf 2007.