Cwricwlwm
Yn ogystal a chynnal y cyrsiau canlynol isradd ac eilradd mae partneriaid Academi Sgrin Cymru yn gweithio i greu rhaglen Meistr ar y cyd, a fydd yn cynnig fframwaith o gymwysterau PgDip/Meistr a chyfleoedd i arbenigo mewn crefftau penodol, ynghyd â modiwlau craidd ar fusnes ffilm. Yn ogystal â hyn fe fydd cyfle i werthuso ac astudio ffilm mewn dull beirniadol.
Datblygu'r Cwricwlwm
Oddi mewn i fframwaith y cymwysterau PgDip/MA, fe fydd myfyrwyr yn dewis astudio un o'r pynciau arbenigol canlynol:
- Animeiddio
- Sinematograffiaeth
- Cyfarwyddo
- Ôl-gynhyrchu
- Cynhyrchu a Rheoli Busnes Ffilm
- Actio ar y Sgrin
- Sgriptio
- Ddatblygu a Golygu Sgriptiau.
Fe fydd y fframwaith yma yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio'n hyblyg trwy'r rhaglen, gan gynnwys y gallu i astudio'n rhan amser ac i astudio modiwlau unigol - gyda strwythyr dyluniant arbennigol o MA 1 blwyddyn i MFA 2 flynedd i ddoethuriaeth 3 blynedd.
Fe fydd y fframwaith newydd yma ar gael o fis Hydref 2007 ac fe gaiff y cyrsiau eu dysgu mewn partneriaeth, gan ddibynnu ar ddewis bynciau'r myfyriwr.
Mae Ysgol Ffilm Ryngwladol Cymru hefyd yn datblygu cwrs BA mewn Astudiaethau Sinema a Sgriptio i ddechrau ym mis Hydref 2007. Mae'r cwrs newydd yma wedi'i fwriadu ar gyfer myfyrwyr a chanddyn nhw awydd ysgrifennu'n greadigol yng nghyd-destun y sinema, myfyrwyr sydd yn gobeithio mynd ymlaen i ysgrifennu ar gyfer y sgrin a'r cyfryngau darlledu, a'r rheiny sydd yn gobeithio astudio mewn cryn fanylder yr arferion a'r theorïau diweddaraf ym myd sinema a theledu.
Mae pobl broffesiynol y diwydiant hefyd yn cymryd rhan yn natblygiad y cwricwlwm, ac yn 2006, fe ddaeth Mogens Rukov, sgriptiwr The Idiots a Festen a nifer o ffilmiau Danaidd eraill, i drafod datblygiadau addysgol ym maes sgriptio ac ysgrifennu ar gyfer y sgrin.
Adnoddau i fyfyrwyr
O ganlyniad i nawdd sylweddol gan Gyngor Ariannu Addysg Uwch Cymru, mae'r Academi Sgrin wedi buddsoddi mewn offer technegol lefel uchel a fydd yn sicrhau bod myfyrwyr ar flaen y gad yn dechnegol, ac yn sicrhau y byddant yn gallu cael profiad ymarferol heb ei ail wrth ddilyn eu cyrsiau.
Fe fydd myfyrwyr yn gallu defnyddio camerâu Ansawdd Uchel (High Definition) proffesiynol Panasonic a chyfleusterau golygu, camerâu Super 16 ynghyd â chyfarpar Motion Capture newydd VICON, sydd yn cael ei ddefnyddio ar nifer o ffilmiau nodwedd i greu effeithiau arbennig. Fe fydd myfyrwyr hefyd yn gallu defnyddio DV Cam, Mini DV ac fe fyddant yn cael profiad o weithio gyda ffilm 35mm yn ystod y flwyddyn. Mae ystafell olygu'r Academi yn cynnig darpariaeth lawn o offer golygu – Avid Media Composer, Final Cut Pro, DV Express Pro, Media Composer, cyfleusterau proffesiynol ar gyfer recordio a chymysgu sain ac offer Pro Tools. Fe fydd pecynnau ar gyfer cynhyrchu ac ysgrifennu fel Moviemagic a Final Draft hefyd ar gael.
Mae gan yr Academi hefyd ofod ymarfer a'r cyfleusterau i ffilmio mewn stiwdio. Mae'r cyfleusterau a'r rigiau yn y gofodau hyn o safon proffesiynol.
Trwy gyfrwng y gefnogaeth a fydd ar gael gan dechnegwyr y gwahanol ganolfannau, fe fydd y myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant ymhob un o'r technegau a'r technolegau newydd hyn ac fe fyddant yn gallu creu eu prosiectau terfynol gyda'r offer sydd ar gael.



